Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a'i mam yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf, yn hen dyddyn y teulu. Gyda'r byd yn datgymalu o'u cwmpas ceir cyfle i ddianc i'r dychymyg gyda chymorth Nain, a wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau pan fu farw i Ceridwen. Trwy'r trysorau hyn y mae Ceridwen yn cwrdd a chyfres o gymeriadau annisgwyl, sydd yn canu am hanesion a syniadau o'r henfyd i'r presennol, ac yn agor drws iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei chenedl a'r byd tu hwnt. Wrth ddilyn hynt yng nghwmni ei chyfeillion yr hyn a elwir gan Ceridwen yn 'Ysbryd Morgan', daw'n hysbys iddi fod gobaith i'w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a'i chymdeithas, ond i'w ganfod mae'n rhaid cysylltu gyda'r gorffennol, tra yn dechrau o'r newydd. Nawr, yn y dilyniant yma i Credoau'r Cymry (2016), mae Huw Lloyd Williams yn cyflwyno hanes deallusol o Gymru sy'n trin y seiliau syniadol sydd wedi ysbrydoli adnewyddu parhaol ein diwylliant yn wyneb argyfyngau oesol.