Breudwyt Ronabwy - Allan O'r Llyfr Coch o Hergest
Yn Llyfr Coch Hergest y cadwyd yr unig gopi canoloesol o'r chwedl Arthuraidd Breudwyt Ronabwy, a'i hynodrwydd yw iddi leoli ei digwyddiadau ym myd breuddwyd yr arwr, dyfais a enghreifftir yma am y tro cyntaf mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae'n chwedl frodorol gymhleth, wedi'i chofnodi mewn arddull addurniedig sy'n cydblethu cymeriadau gwahanol gyfnodau yn hanes Cymru, weithiau'n gwrthgyferbynnu cewri'r gorffennol a dynion bychain oes yr awdur. Dyma olygiad Melville Richards o'r testun, a gyhoeddwyd yn gyntaf gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1948.