Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif. Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.